Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth
Cymru i helpu i sefydlu Banc Cenedlaethol Cymru a fyddai’n
ceisio gweithredu yn ôl cod ymddygiad bancio newydd, modern,
cyfrifol, cynaliadwy a thryloyw yng Nghymru. Rydym hefyd yn galw am
sefydlu arian cyflenwol ar gyfer Cymru gan y banc: sy’n debyg
i arian cyflenwol C3 yn Wrwgwái, a’r WIR yn Swisdir,
a’i roi i fusnesau bach a chanolig, pobl hunan-gyflogedig,
diwydiant, ffermwyr a masnachwyr sydd â diddordeb.
Rydym yn credu, yn arbennig yn wyneb y camreoli economaidd byd-eang
a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf, bod angen i Lywodraeth Cymru
ddangos atebolrwydd ac arweinyddiaeth economaidd drwy annog a
hyrwyddo arian sy’n rhydd o ddyled i’r cyhoedd,
gyda’r wlad yn creu arian, a thrwy hyrwyddo arloesedd
ariannol a bancio cynaliadwy, fel yr hyrwyddwyd gan sefydliadau fel
Positive Money. Rydym o’r farn y byddai Banc Cymru yn cynnig
cyfle perffaith i Gymru ddangos arloesedd ac arweinyddiaeth
economaidd o’r fath yn y byd.
Gallai Pwyllgor Ariannol annibynnol a thryloyw yng Nghymru, a
fyddai’n cynnwys cymysgedd o arbenigwyr nad oes ganddynt
gysylltiad â gwleidyddiaeth, a phanel o arsylwyr, weithredu
fel corff cynghori rhwng y banc a llywodraeth Cymru ynghylch pob
mater perthnasol
Prif ddeisebydd: Cymru Sofren
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 18 Mehefin 2013
Nifer y llofnodion : 43